Ynglŷn â ni

Cefnogi cymunedau, beth bynnag yw’r rheswm

Mae Cynilion a benthyciadau Cambrian wedi cefnogi cymunedau ers dros 25 mlynedd gyda mynediad at wasanaethau ariannol moesegol, teg a fforddiadwy. Byw neu gweithio mewn Cymru? Ymunwch â ni heddiw!

Gwahaniaeth Undeb Credyd

  • Fel undeb credyd, y bobl, neu'r aelodau, sy'n defnyddio ein gwasanaethau sy’n berchen arnom ac yn ein rheoli.

  • Rydym yn gweithredu i hyrwyddo lles ein haelodau.

  • Cawn ein llywodraethu gan fwrdd o gyfarwyddwyr gwirfoddol sy’n cael eu hethol gennych chi, ein haelodau, i reoli ein undeb credyd.

  • Mae’r holl arian sy’n cael ei gynilo gennym ni wedi’i ddiogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol – yn gwmws yr un peth â chynilion mewn banc neu gymdeithas adeiladu.

  • Mae gennym drefniadau gyda dros 60 o gwmnïau lleol, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd i alluogi i’n haelodau gynilo’n syth o’u cyflogau.

  • Mae elw a wneir gennym yn cael ei ddychwelyd yn ôl i’n haelodau ar ffurf difidend, cyfraddau cynilo uwch a chyfraddau benthyciad is.

Ein Cenhadaeth a’n Gwerthoedd

‘Mae Undeb Credyd Cambrian yn bodoli i ddarparu mynediad at wasanaethau ariannol i’n cymuned ac i gynnig ffordd gyfrifol arall i gredyd sy’n costio llawer‘.

Rydym yn credu mewn:

  • Parch
  • Ymddiriedaeth
  • Rhagoriaeth
  • Cydweithio
  • Grymuso

Ein Gweledigaeth

Bydd Cymru yn fan lle nad yw'r rhai sy'n agored i niwed yn ariannol yn dioddef o dan law benthycwyr cost uchel.

Bydd gennym aelodaeth gynyddol a fydd yn rheoli eu harian drwy fod yn ffynhonnell gredyd adnabyddus am bris teg, yn lle diogel i gynilo ac yn hyrwyddo gallu ariannol.

Byddwn yn eiriolwr ar gyfer y mudiad undeb credyd yng Nghymru ac yn gwrthwynebu credyd cost uchel yn chwyrn.

Byddwn yn denu pobl a sefydliadau abl a thalentog i gefnogi ein hachos.

Mae gan bobl ffydd ynom ni

Edrychwch ar ein hadolygiadau diweddaraf ar Trustpilot

Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda’ch cyfrif, cysylltwch â’n tîm ar 0333 2000 601, e-bostiwch info@cambriancu.com neu ewch i https://www.cambriancu.com/contact-us . I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk