Ers dros 25 mlynedd, mae cynilion a benthyciadau Cambrian wedi gweithio gyda nifer o gyflogwyr ar draws Gogledd Cymru a Phowys i roi ffordd syml i weithwyr arbed arian neu dalu benthyciadau yn syth o’u cyflogau.
Eisiau dod yn Bartner Cyflogres newydd?
Mae ein haelodau’n dweud wrthym yn aml mai cynilo’n syth o’u cyflog yw’r ffordd hawsaf i gynilo arian wrth gefn, neu i gynilo ar gyfer rhywbeth arbennig fel y Nadolig neu wyliau blynyddol.
Yn yr un modd, maen nhw hefyd yn dweud wrthym fod ad-dalu benthyciadau yn syth o'u cyflog yn ffordd gyfleus o sicrhau bod ad-daliadau'n cael eu gwneud ac yn brydlon.
O fudd i chi
- Gwasanaeth rhad ac am ddim
- Dim angen llawer o waith gweinyddol
- Gall pryderon ariannol achosi straeon a gorbryder. Gall annog eich staff i gynilo
liniaru hynny - Byddwn yn hyrwyddo eich busnes
- Mae gweithio mewn partneriaeth â ni yn Gyfrifoldeb Corfforaethol Cymdeithasol o fath
- Gwella llesiant ariannol yn y gweithle
- Byddwch yn helpu eich cymuned leol
- Mae staff sy’n sefydlog yn ariannol yn fwy cynhyrchiol
O fudd i’ch staff
- Mae’n ffordd leol a moesegol o gynilo
- Annog arferion cynilo iach
- Ffordd syml i staff gynilo
- Helpu staff i gymryd rheolaeth o’u materion ariannol
- Helpu i ddatblygu diogelwch ariannol
- Gallu helpu i liniaru pryderon ariannol a straen
Beth allwch chi ei wneud i helpu?
- Cynigiwch gyfleuster syml i weithwyr er mwyn tynnu arian o’r gyflogres i alluogi aelodau i gael eu cynilion ac ad-daliadau eu benthyciadau wedi'u tynnu'n syth o'u cyflogau.
- Galluogi a helpu’r undeb credyd i farchnata manteision Cynilo Cyflogres drwy weithgareddau fel deunyddiau o fewn slipiau cyflog staff, erthyglau mewn cylchlythyrau staff, gwybodaeth ar hysbysfyrddau staff, erthyglau ar systemau mewnrwyd y cwmni, rhoi cyflwyniadau mewn cyfarfodydd staff, ymgorffori'r undeb credyd o fewn deunyddiau cynefino etc.
- Neilltuo cynrychiolydd enwebedig i gydlynu'r cyfleuster tynnu arian o’r gyflogres o fewn y cwmni.
- Annog staff â diddordeb i ddod yn Hyrwyddwr y Gweithle, gan weithredu fel pwynt gwybodaeth a chyfeirio unigolion sydd â diddordeb. Bydd pob Hyrwyddwr y Gweithle yn cael hyfforddiant am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig a diweddariadau rheolaidd.
Cwestiynau Cyffredin - Partner Cyflogres
Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.
Yn syml, cysylltwch â ni a gallwn drefnu i un o'n cynrychiolwyr drafod sut gallwn helpu i hwyluso'r gwasanaethau ar gyfer eich tîm.
Dim! Byddwn yn rhedeg y cynllun ar gyfer y cyflogwr ar ran y gweithiwr. Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian sy’n oedolyn gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser a chymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.
Hyrwyddwch y gwasanaeth i'ch tîm drwy ddiweddariadau rheolaidd, cylchlythyron, marchnata mewn slipiau cyflog a chaniatáu i ni gynorthwyo drwy ddiwrnodau cofrestru a diweddariadau.
Bach iawn. Unwaith y bydd y gwasanaeth yn ei le, sy'n syml, byddai angen i ni gael hysbysiad talu o ran pwy a faint fyddai’n cael ei drosglwyddo i gyfrif undeb credyd y gweithiwr.
Mae ein tîm yn cynnig cymorth drwy bob un o'n platfformau, ac unwaith y byddwch wedi eich sefydlu, bydd aelod o'n tîm yn cael ei neilltuo i helpu.
Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda'ch cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar 0333 2000 601 neu ewch i www.cambriancu.com. I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk