Ap Symudol
Gwneud Bancio Symudol yn Hawdd
Symudwch arian, talwch fil a chadwch lygad ar le rydych chi’n gwario eich arian. Lawrlwythwch ein Ap nawr, yn rhad ac am ddim.
Ewch yn SYMUDOL heddiw. Rheolwch eich Arian ‘Wrth Fynd’
I lawrlwytho’r ap heddiw, dewiswch naill ai’r ddolen uchod neu ewch yn uniongyrchol i’r App Store neu Google Play Store.
Mae ein Ap Symudol ar gael i’n holl aelodau sydd wedi cofrestru am Fynediad Ar-lein. Cofrestrwch heddiw a manteisiwch ar holl fanteision bancio ar-lein/symudol.
Edrych ar Falans a Thrafodiadau Cyfrifon
Mae edrych ar falans eich Cyfrifon a’ch trafodiadau diweddar yn hawdd. Mae ein sgrin Balans Cyfrifon yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn sicrhau y gallwch gadw golwg ar yr hyn rydych yn ei wario.
Symud Arian yn Hawdd
Rydym wedi’i wneud yn hawdd i chi drosglwyddo arian rhwng eich Cyfrifon Undeb Credyd neu i gyfrif banc allanol.
Lanlwytho Dogfennau
Nawr gallwch lanlwytho dogfennau yn hawdd drwy ddefnyddio ein ap. Mae'r nodwedd wych hon yn cefnogi nifer o fathau o ddogfennau, ac yn sicrhau y gallwn roi penderfyniad i chi am fenthyciad yn gyflym.
Sut mae’n gweithio
Mae'n hawdd dechrau gyda'n Ap Symudol. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr fod gennych rif ffôn symudol dilys, wedi'i ddilysu. Os na chaiff eich rhif ei ddilysu, gallwch ei ddilysu drwy fewngofnodi i'ch Cyfrif Bancio Ar-lein. Unwaith fydd hynny wedi’i gwblhau, chwiliwch am ein Ap yn yr App Store neu Google Play Store. Yna gallwch fewngofnodi drwy ddefnyddio eich Rhif Aelod, Dyddiad Geni a’ch PIN.
Amodau a Thelerau yn gymwys
Am fanylion ein telerau ac amodau cliciwch fan hyn.
Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda’ch cyfrif, cysylltwch â’n tîm ar 0333 2000 601, e-bostiwch info@cambriancu.com neu ewch i https://www.cambriancu.com/contact-us . I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk