01 Mehefin 2024
Ffioedd yn cynyddu ar ôl 1 Medi 2024
Er mwyn parhau i gynnig ein gwasanaethau i aelodau rydym yn newid ein strwythur ffioedd o 1 Medi 2024 ymlaen. Rydym wedi amsugno’r cynnydd mewn costau am y 6 blynedd diwethaf, ond mae ein costau’n parhau i gynyddu felly nid oes gennym ddewis heblaw codi ein ffioedd ymaelodi blynyddol a chyflwyno ffioedd cyfrifon ychwanegol.
O 1 Medi 2024 ymlaen byddwn yn codi ein ffioedd cyfrifon.
- Bydd aelodau newydd yn talu ffi ymuno o £5 a ffi aelodaeth o £5 (mae’r ffi aelodaeth yn daladwy’n flynyddol ar eich dyddiad ymuno) a bydd angen i aelodau fod â £5 yn eu cyfrif sy’n golygu y bydd angen swm cychwynnol o £15 i agor y cyfrif.
- Byddwn hefyd yn cynyddu ein ffi aelodaeth flynyddol i £5 i rai sydd eisoes yn aelodau. Bydd angen i unrhyw un sydd am adfywio eu cyfrif dalu ffi ymuno £5 a ffi aelodaeth o £5 (mae’r ffi aelodaeth yn daladwy’n flynyddol ar eich dyddiad ymuno) a bydd angen i aelodau fod â £5 yn eu cyfrif sy’n golygu y bydd angen swm cychwynnol o £15 i adfywio cyfrif.
- Codir ffi agor cyfrif o £10 a ffi aelodaeth o £5 ar aelodau corfforaethol (mae’r ffi aelodaeth yn daladwy’n flynyddol ar eich dyddiad ymuno) a bydd angen i aelodau corfforaethol fod â £5 yn eu cyfrif felly bydd angen swm cychwynnol o £20 i agor y cyfrif, hefyd bydd ffi o £10 yn daladwy i newid llofnodion ar y cyfrif.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’n tîm drwy ein tudalen cysylltu â ni drwy glicio yma.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i gefnogi’r gwasanaethau hanfodol yr ydym yn eu cynnig i’r gymuned leol.