Cynilion i blant
Dechreuwch eich siwrnai gynilo
Am beth mae eich plentyn chi’n breuddwydio? Helpwch nhw i gynilo ar ei gyfer.
Mae cynilo ar ran plentyn heddiw yn rhodd wych i’w dyfodol. Nid yn unig y gallan nhw ddechrau eu bywydau fel oedolion gyda rhywfaint o arian wedi’i gynilo, ond gall cyflwyno plant yn gynnar i’r syniad o gynilo eu helpu hefyd i ddysgu gwersi pwysig am arian.
I helpu i annog eich plant i gynilo, rydym wedi datblygu Cyfrif Cynilo i Blant – ar gyfer plant o enedigaeth hyd at 16 oed.
Os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad plentyn ac yn aelod o'r undeb credyd, gallwch agor Cyfrif Cynilo i Blant i’w dechrau ar eu siwrnai gynilo.
Cwestiynau Cyffredin - Cyfrif Cynilo i Blant
Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.
Cliciwch ar “Dewch yn aelod” ar y ddewislen ar dop y dudalen neu galwch heibio i’ch cangen leol. Gall aelodau iau ymuno o adeg eu genedigaeth, serch hynny bydd angen ymddiriedolwr sy’n oedolyn ar bob cyfrif newydd i blant.
Er mwyn defnyddio ein cynnyrch a’n gwasanaethau, a chynnal y gwasanaethau hynny mae Cambrian yn codi’r ffioedd na ellir eu had-dalu canlynol:
- Aelodau Presennol:
- £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
- £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
- Aelodau newydd:
- £5 ffi sefydlu
- £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
- £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
- Ail-gychwyn aelodaeth:
- £5 ffi sefydlu
- £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
- £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
- Ffioedd aelodau corfforaethol:
- £10 ffi sefydlu
- £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
- £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
- £10 ffi yn daladwy am newid llofnodion ar y cyfrif.
- Aelodau Iau:
- Nid ar gyfer aelodau iau nes eu bod yn 16, yna bydd y cyfrif yn uwchraddio'n awtomatig i gyfrif oedolyn. (Aelod Presennol)
Gellir gwneud adneuon trwy Dolen Talu a anfonir unwaith y bydd y cais ar-lein wedi'i gyflwyno, Archeb Sefydlog, Budd-daliadau neu Arian Parod dros y cownter yn un o'n canghennau.
Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch ond gall cyfrifon ddal uchafswm o £85,000.
Ydyn. Fel aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, a gefnogir gan y Llywodraeth, caiff eich holl gynilion eu diogelu hyd at £85,000.
Dewiswch o ddebyd uniongyrchol, bancio ar-lein neu drwy’r ap. Neu beth am gynilo’n syth o’ch cyflog drwy’r Cynilon Cyflogres.
Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda’ch cyfrif, cysylltwch â’n tîm ar 0333 2000 601, e-bostiwch info@cambriancu.com neu ewch i https://www.cambriancu.com/contact-us . I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk