Cyfrifon Cynilo Sefydlog
Cyfrif Cynilo Cyfradd Sefydlog Un Flwyddyn
Ewch ati i gynyddu eich cynilion gyda’n Cyfrif Cynilo Cyfradd Sefydlog Un Flwyddyn a chael llog o 5.00% AER! DYDDIAD CAU BLAENOROL 31 IONAWR 2025!
Gyda’n Cyfrif Cynilo Cyfradd Sefydlog Un Flwyddyn, gallwch roi eich arian i mewn gan wybod faint o log y bydd yr arian hwnnw’n ei ennill. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw rhoi rhwng £500 a £5,000 i mewn, a chewch ennill 5.00% AER o gyfradd llog sefydlog.
Cyfradd llog
Llog Sefydlog o 5.00% AER
Blaendal lleiaf o £500
Blaendal o £500 i £5,000 yn unig
Tymor 12 mis
Ennill llog rhwng 1 Chwefror 2025 i 31 Ionawr 2026
Dyddiad cau ar gyfer adneuo
Rhaid i flaendaliadau fod yn eu lle cyn 31 Ionawr 2025
Cwestiynau Cyffredin am Gynilo Cyfradd Sefydlog
Oes gennych chi gwestiwn? Edrychwch isod i weld a yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Lawrlwythwch yr Ap Symudol o’r App Store neu Google Play Store, cliciwch y botwm Ymuno a dilynwch y camau i ymaelodi.
Er mwyn defnyddio ein cynnyrch a’n gwasanaethau, a chynnal y gwasanaethau hynny mae Cambrian yn codi’r ffioedd canlynol:
- Aelodau Presennol:
- £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
- £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
- Aelodau newydd:
- £5 ffi sefydlu
- £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
- £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
- Ail-gychwyn aelodaeth:
- £5 ffi sefydlu
- £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
- £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
- Ffioedd aelodau corfforaethol:
- £10 ffi sefydlu
- £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
- £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
- £10 ffi yn daladwy am newid llofnodion ar y cyfrif.
- Aelodau Iau:
- Nid ar gyfer aelodau iau nes eu bod yn 16, yna bydd y cyfrif yn uwchraddio'n awtomatig i gyfrif oedolyn. (Aelod Presennol)
Gellir gwneud adneuon trwy Dolen Talu a anfonir unwaith y bydd y cais ar-lein wedi'i gyflwyno, Archeb Sefydlog, Budd-daliadau neu Arian Parod dros y cownter yn un o'n canghennau.
Na, bydd y gyfradd llog yn sefydlog pan fydd y cyfrif yn cael ei agor, a bydd yn aros yr un fath nes bydd cyfnod y cynnyrch yn dod i ben.
Ni chaniateir alldynnu arian nes bydd y cyfnod penodol yn dod i ben, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Os bydd angen i chi alldynnu arian yn gynnar, byddwch yn colli’r llog rydych chi wedi’i ennill.
Mae dyddiad aeddfedu eich cyfrif yn seiliedig ar gyfnod eich cynnyrch a’r dyddiad yr agorwyd eich cyfrif. Bydd yr holl arian a’r llog yn cael ei ddychwelyd i brif gyfrif cyfranddaliadau’r aelodau ar ddiwedd y cyfnod.
Ydy. Fel aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol a gefnogir gan y Llywodraeth, mae cyfanswm eich cynilion yn cael eu diogelu hyd at £85,000.
Warning: Late repayment can cause you serious money problems. For help with your account please contact our team on 0333 2000 601 or visit www.cambriancu.com. For financial advice visit www.moneyhelper.org.uk