Cynilion

Cynilo gyda Ni

Adeiladwch ddyfodol gwell i chi’ch hun a’ch cymuned leol drwy gynilo gyda chynilion a benthyciadau Cambrian.

Manteision cynilo’n rheolaidd

Mae pob aelod yn elwa o gynilo’n rheolaidd. Mae’n caniatáu i aelodau weithio tuag at eu nodau ariannol ac yn ffordd o leddfu argyfwng ariannol annisgwyl. Mae cynilo’n rheolaidd yn lleihau’r angen i fenthyg o ffynonellau credyd costus. Cynilwch gyda’r undeb credyd ar gyfer eich gwyliau, car newydd, eich priodas, dillad ysgol, cronfa ar gyfer diwrnod glawog, penblwyddi neu’r Nadolig.

Mae’r gallu i arbed arian yn y byr dymor neu’r hirdymor yn gam pwysig ar y llwybr i sefydlu llesiant ariannol a datblygu asedau. Bydd hyd yn oed cynilion bach, rheolaidd yn tyfu ac yn eich helpu i dalu’r biliau annisgwyl hynny.

Mae pob £1 sy’n cael ei arbed yn gyfwerth â chyfranddaliad unigol.

Mae cynilion unigolyn hyd at £85,000 wedi’u diogelu’n llawn.

Caiff cynilion eu diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol.

Yr un diogelwch yn gwmws â banciau a chymdeithasau adeiladu.

Cynilwch yn syth o’ch cyflog gyda chynilion cyflogres.

Gallwch roi arian yn eich cyfrif yn hawdd gyda’n gwasanaethau bancio ar-lein.

Byddwch yn rhan o gwmni ariannol cydweithredol sy’n cefnogi’r gymuned.

Gallwch arbed uchafswm o £85,000 yn eich cyfrif undeb credyd.

Ein Polisi Cynilo

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o fuddsoddiadau moesegol, bydd eich cyfraniad, heb os, yn cael effaith bositif ar eich cymuned leol. Yn Undeb Credyd Cambrian, anelwn at ddarparu cwmni cynilo a benthyciadau cydweithredol o safon uchel, cynaliadwy a hygyrch, sy’n ymateb i anghenion y gymuned leol ac yn bwrw ati i atal effeithiau andwyol tlodi ac allgáu ariannol.

Mae’r undeb credyd yn cynnig dull cyfleus a diogel o gynilo. Mae bob £1 sy’n cael ei gynilo yn gyfwerth â chyfranddaliad unigol a gall aelodau gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunant ond cânt eu hannog i gynilo’n rheolaidd. Gall cynilion gronni'n gyflym unwaith y bydd aelodau wedi dod yn gyfarwydd â gwneud hynny, a chaiff aelodau eu hannog i barhau i gynilo hyd yn oed wrth ad-dalu benthyciad.

Cynilion i blant

Mae cynilo ar gyfer plentyn heddiw yn anrheg wych ar gyfer y dyfodol. Nid yn unig y gallan nhw ddechrau eu bywydau fel oedolion gyda rhywfaint o gynilion, ond mae cael plant i ddechrau cynilo’n gynnar hefyd yn eu helpu i ddysgu gwersi pwysig am arian.

Cyfrif atodol Cynilwyr Nadolig

Gall y Nadolig fod yn gyfnod drud, llawn straen, ond gall ychydig o gynllunio ymlaen llaw wneud gwahaniaeth enfawr. Mae ein Cyfrif Cynilo ar gyfer y Nadolig wedi’i greu i wneud yn siŵr bod costau’r Nadolig o dan reolaeth.

Pan fyddwch chi'n cynilo mewn cyfrif Cynilwyr Nadolig gyda Cambrian byddwch hefyd yn derbyn ychwanegiad gennym ni i chi.

Moneyworks Cynilwch Arbedion

Eisiau gwella eich llesiant ariannol? Cynilwch arian neu dalwch fenthyciadau yn syth o’ch cyflog

Cyfrif Cynilo Cyfradd Sefydlog Un Flwyddyn

Gyda’n Cyfrif Cynilo Cyfradd Sefydlog Un Flwyddyn, gallwch roi eich arian i mewn gan wybod faint o log y bydd yr arian hwnnw’n ei ennill. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw rhoi rhwng £500 a £5,000 i mewn, a chewch ennill 5.00% AER o gyfradd llog sefydlog.

Cwestiynau Cyffredin - Cyfrif Cynilo

Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.

Sut mae dod yn aelod?

Cliciwch ar “Dewch yn aelod” ar y ddewislen ar dop y dudalen neu galwch heibio i’ch cangen leol.

Oes unrhyw ffioedd aelodaeth?

Er mwyn defnyddio ein cynnyrch a’n gwasanaethau, a chynnal y gwasanaethau hynny mae Cambrian yn codi’r ffioedd canlynol:

  • Aelodau Presennol:
    • £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
    • £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser

  • Aelodau newydd:
    • £5 ffi sefydlu
    • £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
    • £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser

  • Ail-gychwyn aelodaeth:
    • £5 ffi sefydlu
    • £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
    • £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser

  • Ffioedd aelodau corfforaethol:
    • £10 ffi sefydlu
    • £5 ffi aelodaeth (mae ffi aelodaeth yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd ymuno)
    • £5 o arbedion a gedwir yn y cyfrif bob amser
    • £10 ffi yn daladwy am newid llofnodion ar y cyfrif.

  • Aelodau Iau:
    • Nid ar gyfer aelodau iau nes eu bod yn 16, yna bydd y cyfrif yn uwchraddio'n awtomatig i gyfrif oedolyn. (Aelod Presennol)

Gellir gwneud adneuon trwy Dolen Talu a anfonir unwaith y bydd y cais ar-lein wedi'i gyflwyno, Archeb Sefydlog, Budd-daliadau neu Arian Parod dros y cownter yn un o'n canghennau.

Faint alla i ei gynilo?

Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch ond gall cyfrifon ddal uchafswm o £85,000.

Ydy’r cynilion yn ddiogel?

Ydyn.  Fel aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, a gefnogir gan y Llywodraeth, caiff eich holl gynilion eu diogelu hyd at £85,000.

Sut rydw i’n talu i mewn i’m cynilion?

Gallwch ddewis debyd uniongyrchol, bancio ar y we neu drwy’r ap. Neu beth am gynilo’n syth o'ch cyflog drwy’r Cynilion Cyflogres.

Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda’ch cyfrif, cysylltwch â’n tîm ar 0333 2000 601, e-bostiwch info@cambriancu.com neu ewch i https://www.cambriancu.com/contact-us . I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk